Mae gwyddonwyr wedi rhybuddio bod angen gwarchod siarcod rhag iddyn nhw gael eu dileu.

Eleni bydd bron i 100 miliwn yn cael eu lladd, a dydyn nhw ddim yn cael cyfle i atgynhyrchu.

Yn ôl yr ymchwil ddiweddaraf yn dangos y gallai nifer o rywogaethau farw allan heb i wyddonwyr fynd ati i’w gwarchod nhw.

Mae gwyddonwyr yn cwrdd heddiw i drafod y camau y gallen nhw eu cymrydi wyrdroi’r sefyllfa.

Caiff siarcod eu gwerthu ar gyfer eu bwyta, ac mae cawl siarcod yn un o ddanteithion poblogaidd Asia.

Caiff y cig ei dorri oddi ar y siarcod gan bysgotwyr, cyn iddyn nhw daflu’r gweddillion yn ôl i’r dŵr.

Mae arbenigwyr wedi amcangyfrif fod 6.4% i 7.9% o’r boblogaeth siarcod yn cael eu lladd bob blwyddyn.

Boris Worm

Dywedodd yr awdur a’r darlithydd Boris Worm: “Yn fiolegol, all siarcod ddim cadw i fyny gyda’r gyfradd bresennol o ecsbloetio a’r galw.

“Rhaid cynyddu’r mesurau amddiffyn yn sylweddol er mwyn osgoi rhagor o leihad a diddymu posib nifer o rywogaethau o siarcod yn ystod ein hoes ni.”

Tra bo hela siarcod am gig yn anghyfreithlon yn Ewrop, ond mae’r arfer yn gyffredin mewn rhannau eraill o’r byd sydd heb fesurau i’w atal.

Mae’r arbenigwyr sy’n cwrdd yn argymell bod pum math o siarcod yn cael eu rhestru fel bod masnach rhyngwladol ar gyfer siarcod yn gynaladwy ac yn gyfreithlon.

Cafodd argymhellion o’r fath eu gwrthod yn y gorffennol.