Mae’r heddlu sy’n chwilio am Ben Thompson wedi dweud na fyddan nhw’n archwilio’r afon Elai yn ddyddiol bellach.

Diflannodd y dyn 34 oed o Hwlffordd ar ôl bod i wylio’r gêm rygbi rhwng Cymru ac Iwerddon yng Nghaerdydd ar Chwefror 2.

Dywedodd y Prif Arolygydd Eddie Ough:

“Er gwaethaf ymdrechion a phroffesiynoldeb pawb sydd ynghlwm â’r chwilio am Ben nid ydyn ni wedi llwyddo i ddod o hyd iddo.”

“Er nad ydyn ni’n chwilio’r afon yn ddyddiol bellach byddwn yn parhau i wneud ein gorau i ddod o hyd i Ben drwy chwilio yn awr ac yn y man dros yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod.

“Mae teulu Ben wedi cael gwybod a rydym ni’n meddwl amdanyn nhw ar adeg anodd iawn.”

Offer sonar

Mae 50 o swyddogion Heddlu De Cymru wedi bod yn chwilio am Ben Thompson a chafodd offer sonar ei ddefnyddio er mwyn archwilio’r afon Elai a rhannau o fae Caerdydd.

Nid oes adroddiadau fod neb wedi gweld Ben Thompson ers noson y gêm rygbi ryngwladol ar Chwefror 2.

Cafodd ei weld ar gamerâu cylch cyfyng yn croesi Heol Lecwydd i Lawrenny Avenue cyn cymryd llwybr o ddiwedd y ffordd honno i gyfeiriad tir wast.