Arlywydd Syria, Bashar Assad (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae gwrthryfelwyr Syria wedi bod yn ymosod ar  ganolfan hyfforddi heddlu ar gyrion dinas Aleppo, gyda lluoedd y llywodraeth yn taro’n ôl gydag ymosodiadau o’r awyr.

Os bydd y gwrthryfelwyr yn llwyddo i gipio’r ganolfan, fe fyddai’n ergyd arall i gyfundrefn Bashar Assad. Dros yr wythnosau diwethaf, mae ei gyfundrefn wedi colli rheolaeth ar safleoedd allweddol yng ngogledd-ddwyrain y wlad, gan gynnwys argae trydan hydro, maes olew pwysig a dwy ganolfan filwrol.

Ddoe, llwyddodd gwrthryfelwyr yn nwyrain y wlad i oresgyn safle sy’n cael ei adnabod fel al-Kibar, lle credir bod Syria wrthi’n adeiladu adweithydd niwclear tan i awyrennau Israel fomio’r safle yn 2007.

Aleppo – maes y gad

Mae Aleppo, dinas fwyaf Syria, wedi profi llawer o’r brwydro trymaf ers dechrau’r gwrthryfel yn erbyn Assad bron i ddwy flynedd yn ôl.

Ym mis Gorffennaf, fe wnaeth y gwrthryfelwyr lansio ymosodiad ar y ddinas, gan cipio sawl cymdogaeth. Mae’r brwydro parhaus wedi bod yno ers hynny, heb i’r naill ochr na’r llall lwyddo i ennill goruchafiaeth lwyr.

Mae’r gwrthryfelwyr wedi bod wrthi ers wythnosau hefyd yn ceisio cipio maes awyr rhyngwladol Aleppo. Does dim arwyddion o ymladd am y maes awyr heddiw, ond mae brwydro wedi bod o gwmpas rhan o’r ffordd y mae’r fyddin yn ei defnyddio i gludo milwyr ac offer i ganolfan filwrol o fewn y maes awyr.

Ddydd Gwener, fe wnaeth lluoedd y llywodraeth danio taflegrau ar ran o ddwyrain Aleppo sydd yn nwylo’r gwrthryfelwyr. Yn ôl un mudiad hawliau dynol, cafodd 37 o bobl eu lladd, a a chafodd 33 o bobl eraill eu lladd mewn ymosodiad tebyg ddydd Mawrth.