Mae arweinydd yr Eglwys Babyddol yn yr Alban, y Cardinal Keith O’Brien, yn wynebu honiadau iddo ymddwyn yn amhriodol tuag at offeiriaid.

Mae tri offeiriad ac un cyn-offeiriad wedi cwyno wrth y Fatican am ei ymddygiad yn eu herbyn dros gyfnod yn mynd yn ôl 30 mlynedd, ac yn galw am ei ymddiswyddiad.

Y Cardinal O’Brien yw unig gynrychiolydd Prydain yn y cyfrin gyngor yn y Fatican i ethol y Pab newydd i olynu Benedict XVI y mis nesaf.

Ni ddylai’r honiadau yn erbyn y Cardinal O’Brien ei rwystro rhag  cymryd rhan, yn ôl cyn archesgob Westmister, y Cardinal Cormac Murphy-O’Connor.

“Mae’r Cardinal wedi gwadu’r honiadau, a dydyn nhw ddim wedi cael eu profi mewn unrhyw ffordd, felly mater i’r Cardinal O’Brien yw penderfynu, ac felly dylai pethau fod.”

Mae’r Cardinal O’Brien, a fydd yn 75 oed y mis nesaf, ac a aned yn Ballycastle, Swydd Antrim, wedi bod yn Archesgob St Andrews a Chaeredin ers 1985.