Oscar Pistorius (llun PA)
Mae tad cariad Oscar Pistorius wedi dweud y bydd yn rhaid i’r athletwr byd-enwog “fyw gyda’i gydwybod” os yw’n dweud celwydd am y ffordd y lladdodd hi.

Mewn cyfweliad gyda phapur newydd yn Ne Affrica, dywed Barry Steenkamp y bydd y paralympiad yn “dioddef” ar ei ben ei hun os yw ei honiad iddo saethu Reeva Steenkamp ar ddamwain yn anwir.

Ond dywed Mr Steenkamp y byddai efallai’n gallu maddau i Pistorius ryw ddiwrnod os yw’n dweud y gwir.

Cafodd Pistorius ei ryddhau ar fechnïaeth ddoe. Mae wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth bwriadol ar ôl lladd ei gariad ychydig dros wythnos yn ôl.