iPad - un o gynhyrchion Apple
Mae China wedi gwadu mai nhw sydd y tu fefn i ymosodiadau hacio mawr ar dargedau Americanaidd.
Roedd astudiaeth ar hacio gan gorff o Virginia wedi rhoi’r bai ar China ond mewn datganiad dywedodd gweinyddiaeth amddiffyn y wlad fod y cyhuddiad yn anghywir.
Roedd cyfeiriadau cyfrifiadurol oedd yn cysylltu’r ymosodiadau gydag uned filwrol yn China wedi cael eu cipio, meddai.
Yn ôl y datganiad mae rhwydweithiau China ei hun wedi dioddef o hacio ac mae’r wlad yn cydweithio gyda gwledydd eraill i ymchwilio i’r troseddau.
Mae “ymosodiadau unochrog yn y wasg” yn chwalu’r cydweithio, meddai China.
Apple
Cwmni Apple yw’r cwmni mawr diweddaraf i ddatgelu eu bod nhw wedi cael eu hacio.
Does dim tystiolaeth fod data wedi ei gymryd medd y cwmni ac maen nhw’n gweithio gyda’r awdurdodau i ymchwilio i’r digwyddiad, sydd wedi heintio rhai o systemau Apple.
Yr wythnos ddiwethaf datgelodd Facebook eu bod nhw wedi dioddef ymosodiad ar ôl i rai o’u staff fynd ar wefan datblygwr a llwytho meddalwedd heintus.