Nicola Sturgeon - rhybudd
Fe fydd Cymru ar ei cholled o gymharu â Lloegr o ganlyniad i’r toriadau yng nghronfeydd yr Undeb Ewropeaidd.

Dyna honiad Llywodraeth yr Alban sy’n dweud y bydd pob un o’r gwledydd datganoledig yn diodde’ o gymharu â Lloegr.

Mae’r toriadau yn y Cronfeydd Strwythurol sy’n hybu buddsoddi, twf a gwaith ond, yn ôl Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, mae’r drefn fel y mae’n ffafrio ardaloedd poblog fel y rhai yn Lloegr.

Llywodraeth Cymru’n amau hefyd

Roedd Llywodraeth Cymru’n codi amheuon am y drefn hefyd, meddai wrth bapur y Scotsman, ac roedden nhw a Llywodraeth Gogledd Iwerddon yn trafod gyda’r gweinidog perthnasol yn San Steffan.

Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd i geisio hyrwyddo datblygu economaidd.

Ymateb Llywodraeth Prydain yw nad yw’r arian wedi cael ei rannu eto.

Sylwadau Nicola Sturgeon

Mae’r Alban yn dweud y gallai eu cyfran nhw o’r cronfeydd gael eu torri o 30% neu £250 miliwn tros y chwe blynedd nesa’.

“Er ein bod wedi disgwyl gostyngiadau o ganlyniad i’r gostyngiad cyffredinol yng ngwario’r Undeb Ewropeaidd, doedden ni ddim wedi disgwyl y dosrannu sy’n datblygu’n awr tros y Deyrnas Unedig,” meddai Nicola Sturgeon wrth y Scotsman.

“Byddai gwario llawer is ar annog buddsoddi, twf a swyddi yn annoeth iawn yn yr amseroedd economaidd anodd yma.”