Cig ceffyl
Fe ddatgelodd cwmni cyfanwerthu Castell Howell o Cross Hands eu bod wedi galw pasteiod bwthyn yn ôl ar ôl cael gwybodaeth am y cig ceffyl gan y cynhyrchwyr.

Fe gafodd y newyddion ei ddatgelu neithiwr ar raglen y Byd ar Bedwar ar ôl i arbrawf ddangos yn glir fod cynhyrchion eraill oedd gan y cwmni yn gwbl lân,

Fe bwysleisiodd un o gyfarwyddwyr y cwmni, Martin Jones, wrth y rhaglen eu bod yn gwybod i sicrwydd o ble’n union yr oedd yr holl gig ar gyfer eu cynhyrchion eu hunain yn dod.

Roedd yr olion cig ceffyl mewn pasteiod bwthyn sy’n cael eu cynhyrchu gan gwmni o’r Iwerddon ac mae’n ymddangos mai pump o gwsmeriaid oedd wedi prynu’r cynnyrch.

Yn ôl y Byd ar Bedwar, fe gafodd Castell Howell glywed am y broblem ddydd Gwener ac roedden nhw wedi gweithredu ar unwaith.