Leighton Andrews
Mae chwyldro yn nhrefn addysg Cymru rywfaint yn nes ar ôl i ddwy sir arall wynebu “mesurau arbennig” i wella eu perfformiad.

O fewn dim i gyhoeddi adroddiadau gan y corff arolygu Estyn, roedd y Gweinidog Addysg yn dweud fod gormod o awdurdodau addysg bach a bod angen newid.

Mae Leighton Andrews eisoes wedi sefydlu arolwg o’r drefn addysg yng Nghymru, gydag awgrym cry’ fod angen tynnu awdurdodau at ei gilydd neu hyd yn oed weinyddu’r system o’r canol.

Pump awdurdod mewn trafferth

  • Sir Fynwy a Merthyr Tudful yw’r ddwy sir fach ddiweddara’ i gael y mesurau arbennig, sy’n golygu gorfod dilyn rhaglen benodol i wella perfformiad y sir, gydag arolygaeth o’r tu allan.
  • Maen nhw’n dilyn Ynys Môn, Blaenau Gwent a Sir Benfro gan olygu fod bron chwarter holl awdurdodau addysg Cymru’n gorfod gweithredu fel hyn.
  • Ym Merthyr, roedd problemau gyda llythrennedd plant tros o leia’ wyth mlynedd ac, yn ôl Estyn, roedd gormod o blant wedi’u heithrio.
  • Yn Sir Fynwy, er bod ysgolion yn perfformio’n dda, fe ddylai ysgolion uwchradd fod yn gwneud yn well o ystyried cyfoeth y sir ac roedd diffygion o ran diogelu plant.

Rhaid newid meddai Andrews

Fe ddywedodd Leighton Andrews wrth bapur y Western Mail fod diffyg gallu strategol yn y byd addysg yng Nghymru.

“Allwn ni ddim aros gyda 22 o awdurdodau bach sy’n tan berfformio,” meddai.

Roedd yn rhoi’r bai ar ad-drefnu llywodraeth leol yn y 90au am chwalu cronfeydd o brofiad yn awdurdodau lleol Cymru.