Mae gweddillion dynol wedi eu darganfod mewn caban a losgodd i’r llawr yn yr Unol Daleithiau, lle’r oedd yr heddlu yn credu bod lofrudd yn cuddio.

Fe gafodd y gweddillion eu darganfod mewn caban ger Llyn Big Bear yng Nghalifornia, lle’r oedd cyn-blismon Christopher Dorner wedi bod yn cuddio rhag yr heddlu. 

Roedd Dorner wedi ei gyhuddo o ladd pedwar person, gan gynnwys un plismon.

Tân wedi ei gynnau

Fe ddywedodd yr heddlu bod Dorner wedi cau ei hun i mewn yn y caban, a bod tân wedi cynnau. Fe fydd profion yn cael eu cynnal i adnabod y corff.

Roedd cyn-blismon Heddlu Los Angeles, Christopher Dorner wedi bygwth “rhyfel” yn erbyn plismyn eraill a’u teuluoedd, er mwyn dial wedi iddo golli ei swydd pum mlynedd yn ôl.

Ymchwilio i achos y tân

“Mae gennym ni resymau i gredu mai ei gorff ef sydd yma,” meddai llefarydd Heddlu San Bernardino, Cynthia Bachman. 

Ychwanegodd nad oedd yr heddlu wedi darganfod sut ddechreuodd y tân, ond bod saethu wedi digwydd rhwng y person yn y tŷ a phlismyn o’i amgylch cyn iddo ddechrau.

Mae’r heddlu yn gobeithio bydd profion fforensig yn datgelu os mai corff Dorner oedd yn y caban.