Canol Caerdydd (llun gan Gyngor y Ddinas)
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wedi beirniadu penderfyniad Cyngor Caerdydd i wario £28,000 ar hysbysebu 11 swydd newydd, tra bod y cyngor yn gwneud toriadau ar wasanaethau yn y ddinas.

Cafodd yr hysbysebion, ar gyfer 11 o Gyfarwyddwyr Corfforaethol newydd, eu gosod yn y Sunday Times a’r Municipal Journal ym mis Ionawr, ar gost o £28,375.

Dywedodd Andrew RT Davies: “Mae recriwtio haen newydd o uwch reolwyr – pob un yn ennill bron cymaint a’r Prif Weinidog – yn frawychus yn ei hun.

“Ond mae gwario degau o filoedd o bunnoedd er mwyn gwneud hynny yn ergyd i drethdalwyr sy’n gweld gwasanaethau yn cau ac aelodau is yn y cyngor yn colli eu swyddi.”

Mae Andrew R T Davies yn honni bod penderfyniad y cynghorwyr Llafur i greu’r swyddi newydd yn wastraff arian, tra bod y cyngor i fod yn ceisio arbed £22 miliwn.

“Gallai cost yr hysbysebion yma wedi rhoi diwedd i ansicrwydd am ddyfodol gwasanaethau fel Canolfan Ferlota Caerdydd neu Bwll Nofio Splott.  Gall cost y cyfarwyddwyr newydd yma leihau toriadau y cyngor o tua £2 miliwn.”

Mae Llafur Cymru wedi gwrthod ymateb i’r honiadau, ac mae golwg360 hefyd wedi gofyn i Gyngor Caerdydd am sylw.