Mae chwech o newyddiadurwyr wedi cael eu harestio ar amheuaeth o hacio ffonau.

Roedd y chwech yn arfer gweithio i’r News of the World, a ddaeth i ben ar ddechrau’r ymchwiliad i hacio ffonau gan newyddiadurwyr.

Mae Heddlu Scotland Yard wedi dweud eu bod nhw’n ymchwilio i honiadau o gynllwynio rhwng 2005 a 2006.

Ond dydy’r honiadau ddim yn ymwneud ag archwiliad Weeting, sydd eisoes yn ymchwilio i honiadau eraill o glustfeinio.

Mae’r chwech yn cael eu holi gan yr heddlu yn Llundain a Sir Gaer.

Cafodd dau ddyn, 45 a 46 oed, eu harestio yn Wandsworth a chafodd dyn 39 oed ei arestio yn Greenwich.

Cafodd dynes 39 oed ei harestio yn Sir Gaer, dynes 33 oed ei harestio yn Islington a dynes 40 oed ei harestio yn Lambeth.