Mae’r Arglwydd Ustus Goldring wedi cael ei benodi i archwilio tystiolaeth newydd a ddaeth i law ynghylch marwolaeth 96 o bobol yn stadiwm Hillsborough yn 1989.
Cafodd cefnogwyr Lerpwl eu lladd yn y stadiwm yn Sheffield yn ystod gêm Cwpan yr FA yn erbyn Nottingham Forest.
Cafodd rheithfarn y cwestau gwreiddiol eu diddymu y llynedd wedi iddi ddod i’r amlwg bod Heddlu De Swydd Efrog wedi celu gwybodaeth ac wedi newid cofnodion er mwyn awgrymu mai’r cefnogwyr eu hunain oedd yn gyfrifol am y drychineb.
Mae disgwyl cyhoeddiad yn fuan ynghylch pryd fydd y crwner yn clywed yr achosion o’r newydd.
Barnwr blaenllaw
Yr Arglwydd Ustus Goldring oedd y barnwr yn achos llofruddiaeth Damilola Taylor.
Mae’r gyfraith wedi newid fel bod modd cynnal cwest i farwolaethau pobol unrhyw le yn y Deyrnas Gyfunol.
Ond mae teuluoedd y 96 wedi mynegi eu dymuniad nad yw’r cwestau’n cael eu cynnal yn Sheffield lle digwyddodd y drychineb a lle cafodd y cwestau gwreiddiol eu cynnal.
Mae’r heddlu a Chomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu hefyd yn cynnal ymchwiliad o’r newydd.