Mae’r beirdd a fu “ar streic” er mwyn cefnogi cerddorion a chyfansoddwyr Cymraeg, wedi rhoi’r gorau i’w protest.
Ben bore heddiw, fe anfonwyd neges at gapteiniaid y timau gan y Prifardd Myrddin ap Dafydd, yn dweud ei fod wedi gadael i gynhyrchydd y Talwrn wybod eu bod nhw bellach ar gael i recordio’r gyfres.
“Mi fûm yng nghyfarfod Eos yng Nghaernarfon nos Wener ddiwethaf, a chael dipyn o agoriad llygad o gael y manylion yn llawn,” meddai’r e-bost.
“Yn dilyn y cyhoeddiad neithiwr, dw i wedi anfon neges at gynhyrchydd Talwrn y Beirdd.”
Y neges yn llawn
Meddai Myrddin ap Dafydd, ar ran beirdd timau’r Talwrn:
“Gan fod y BBC wedi dod i gytundeb gydag Eos, bydd y beirdd, yn naturiol, ar gael bellach i barhau â’u gwasanaeth i Radio Cymru.
“Deallwn mai cytundeb dros dro ydi hwn ac bydd yn arwain yn anorfod at setliad parhaol yn y pen draw.”