The Bridge End Inn, Rhiwabon
Mae tafarn yn Rhiwabon ger Wrecsam wedi ei henwi’n un o dafarnau gorau gwledydd Prydain yn 2012, yn ôl CAMRA.
Cafodd y Bridge End Inn ei churo yn y pedair olaf gan dafarn y Baum yn Rochdale, ond mae’r landlord, Peter McGivern wedi dweud wrth Golwg360 ei fod “wrth ei fodd ac yn falch iawn” o gyrraedd y rownd derfynol.
Dywedodd: “Wnaethon ni ddim dechrau rhedeg y dafarn er mwyn ennill y gystadleuaeth hon, ond rydyn ni wrth ein bodd ac yn falch iawn o gael dweud mai ni sy’n rhedeg tafarn orau Cymru.
“Hoffwn estyn llongyfarchiadau i’r enillwyr ac i’r tafarnau eraill ar y rhestr fer. Mae unrhyw un sy’n cyrraedd y safon yma’n amlwg yn gwneud rhywbeth yn iawn.
“Mae cyrraedd mor bell yn y gystadleuaeth yn sicr wedi bod yn hwb i’n busnes ni.”
Enillydd y llynedd
Daeth y Bridge End Inn i’r brig yng nghystadleuaeth y llynedd, y tro cyntaf i dafarn Gymreig ei hennill hi.
Mae CAMRA yn defnyddio nifer o feini prawf ar gyfer y gystadleuaeth, gan gynnwys safon y cwrw, y croeso a’r awyrgylch.
Mae Peter McGivern yn dod o ardal Wrecsam, ac fe symudodd i redeg y dafarn gyda’i wraig bedair blynedd yn ôl.
“Mewn gwirionedd, daethon ni yma er mwyn i’n mab gael agor bragdy. Mae’n fragwr lleol ac mae gyda ni fragdy yng nghefn y dafarn.
Cwrw cartre’
Mae’r teulu’n bragu eu cwrw eu hunain o dan yr enw McGivern Ales.
“Tafarn cwrw gasgen ydyn ni, ac mae gyda ni dros 190 o gyflenwyr lleol.
“Yn ôl chwedlau lleol, byddai gweithwyr diwydiannol yn dod yma ar ddiwedd diwrnod o waith a byddai’n cymryd hyd at chwe pheint i gael gwared ar y llwch oddi ar yr ysgyfaint.
“Fyddai’r capeli’n sicr ddim wedi hoffi hynny!”
Y ddwy dafarn arall yn y pedair uchaf oedd y Conqueror Alehouse yn Ramsgate a’r Tom Cobley Tavern yn Spreyton yn Nyfnaint.