Mae canser yr ysgyfaint wedi goddiweddyd canser y fron fel y clefyd mwya’ marwol ymysg merched yng ngwledydd Prydain.

Mae gwyddonwyr yn rhagweld mai canser yr ysgyfaint fydd achos mwya’ marwolaethau ymysg menywod yn Ewrop erbyn canol y degawd hwn.

Mae ystadegau newydd yn dangos fod y gyfradd farwolaeth ymysg menywod o ganlyniad i ganser yr ysgyfaint bellach yn 21 o bob 100,000.