Farmbox Meats, Llandre
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng  Nghymru yn gwybod fod cig ceffyl wedi mynd o ladd-dy yn Swydd Efrog i Landre, Ceredigion. 

Dyna ddywedodd Steve Wearne, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth, ar Radio Wales heddiw.
Ond maen nhw hefyd yn amau fod peth o’r cig ar ryw adeg wedi cael ei werthu fel cig eidion.

Does dim yn anghyfreithlon mewn trin cig ceffyl, meddai Steve Wearn, “ond ein hamheuaeth gref yw fod cig ceffyl wedi cael ei werthu ar ryw adeg fel pe bai’n gig eidion”.
 
Ddoe, roedden nhw wedi atafaelu’r cig a’r gwaith papur ac maen nhw’n ceisio cymharu’r ddau. Roedd swyddogion yno ers cyn saith y bore.

Cwmnïau Llandre

Dafydd Ffredric Raw-Rees ydi cyfarwyddwr y ddau gwmni, Farmbox Meats a Farmbox Meats Byproducts, yn Llandre ger Aberystwyth.

Fe gafodd y cwmni cynta’ ei sefydlu yn 2010, a’r ail ers 2012.

Mae Dafydd Raw-Rees yn gyn-gynghorydd sir yng Ngheredigion.