Logo Findus (o wefan y cwmni)
Mae awdurdodau dioglewch y cwsmer yn Ffrainc yn parhau i olrhain y gadwn sydd wedi cyflewni’r cig ceffyl gafwyd mewn lasagne cig eidion yn ddiweddar.

Dywedodd un o is- weinidogion llywodraeth Ffrainc bod cwmniau o Ffrainc, Rwmania, Ynys Ciprys a’r Iseldiroedd yn rhan o’r gadwyn.

Mae’r awdurdodau yn Rwmania eisoes yn ymchwilio i’r honniadau a’r awdurdodau yn yr Iseldiroedd yn dweud eu bod yn barod i gynnal ymchwiliad ar frys os oes angen.

Mae lasagne a bygyrs sy’n cael eu hamau o gynnwys cig ceffyl wedi cael eu tynnu oddi ar silffoedd archfarchnadoedd ym Mhrydain, Iwerddon, Sweden a Ffrainc.

Yn y cyfamser mae cadeirydd Pwyllgor Bwyd a Materion Cefn Gwlad Ty’r Cyffredin wedi galw am wahardd mewnforio cig o’r Undeb Ewropeaidd am y tro.

Mae sawl cwmni fel Findus sydd wedi gwerthu bwyd yn cynnwys cig ceffyl yn credu mai troseddwyr sy’n gyfrifol am yr hyn sydd wedi digwydd.