Jeremy Hunt AS
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt wedi dweud y dylai’r meddygon, nyrsys a’r rheolwr fu’n gyfrifol am yr oll arweiniodd at farwolaethau cannoedd yn Ysbyty Stafford gael eu gwahardd rhag gweithio.

Roedd Mr Hunt yn siarad ar raglen Andrew Marr ar y BBC a dywedodd ei fod yn methu deall paham nad oes modd dal rhywun i gyfrif am yr hyn ddigwyddodd yn sgîl cyhoeddi’r adroddiad ar wendidau’r drefn yno.

Roedd yr adroddiad wedi dweud bod safon gofal a meddygaeth yn “drychinebus” yn yr ysbyty am gyfnod maith ac y gallai hyd at 1,200 fod wedi marw yn gyn-amserol oherwydd hynny.

Fe wnaeth Mr Hunt awgrymu hefyd y dylai’r heddlu edrych ar y dystiolaeth sy’n codi o gynnal yr ymchwiliad.

Sefyllfa debyg yng Nghymru?

Yn y cyfamser mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi honni bod yna greisis eisoes yn y gwasanaeth Iechyd yma.

Dywedodd Kirsty Williams bod yna berygl i sefyllfa debyg i’r hyn ddigwyddod yn Ysbyty Stafford ddigwydd yng Nghymru.

Mewn cyfweliad ar BBC Wales, dywedodd bod staff yr uned ddamweiniau yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni wedi eu gorlethu gan waith pan aeth hi yno efo’i mam yng nghfyraith yn ddiweddar.

Dywedodd bod yna brinder nyrsys a doctoriaid yno a bod cleifion yn gorfod aros yn rhy hir i gael eu gweld.

“Roedd yn edrych yn debyg i mi, “ meddai “bod yma wasanaeth oedd yn methu ymdopi ar y pryd ac er gwaethaf ymdrechion gorau staff, dyma’r adeg pan mae camgymeriadau yn gallu digwydd.

Ymateb y Bwrdd Iechyd

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan nad oes amheuaeth bod Ysbyty Nevill Hall yn brysur iawn y noson y mae Ms Williams yn cyfeirio ati.

Mae nhw bellach wedi darparu rhagor o  welyau a chyflogi rhagor o staff nyrsio i leihau’r pwysau gan hefyd sicrhau rhagor o gyllid ar gyfer yr uned frys meddai’r llefarydd.