Rob Howley
Mae Hyfforddwr dros dro Cymru, Rob Howley, yn dweud bod y fuddugoliaeth yn y gêm rygbi ryngwladol ym Mharis wedi bod yn “ddiwrnod go arbennig”.
Fe wnaeth Cymru guro Ffrainc o 16 – 6 yn y Stade de France, a hynny am y tro cyntaf ers 2005.
“Roeddyn ni’n mynnu o hyd nad oeddyn ni wedi troi’n dîm gwael dros nos,” meddai. “Fe wnaeth y chwaraewyr ddangos cryn gymeriad ac fe wnaeth yr amddiffynwyr roi Ffrainc dan lawer o bwysau.”
Fe wnaeth cefnogwyr Ffrainc hwtian wrth i’w tîm adael y maes ac mae nhw ar waelod y tabl ar hyn o bryd ar ôl colli i’r Eidal ac i Gymru.