George Osborne
Mae’r Canghellor George Osborne wedi condemnio ymddygiad “hollol annerbyniol” RBS ynglŷn â chyfradd Libor, ac wedi mynnu na fydd y trethdalwr yn talu am ddirwyon y banc.

Mae’r banc, sydd â chyfran fawr yn berchen i’r wladwriaeth, wedi dod i gytundeb gyda’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA)  a rheoleiddwyr yn yr Unol Daleithiau am eu rhan yn y twyll wrth ddylanwadu ar gyfradd Libor.

Fe fydd RBS yn cymryd £300 miliwn o’r gronfa sy’n talu bonysau bancwyr, a bydd pennaeth buddsoddiad y banc, John Hourican, yn ymddiswyddo gan olygu na fydd yn derbyn ei fonws ar gyfer 2012 a chyfranddaliadau eraill.

Dywedodd George Osborne heddiw: “Mae’r hyn ddigwyddodd yn RBS a banciau eraill yn hollol annerbyniol. Rwyf wedi mynnu mai’r banciau ac nid y trethdalwyr fydd yn talu’r bil.”