Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi cynllun i dynnu pobol Cymru ynghyd i drafod dyfodol yr iaith Gymraeg.

Yn ôl Carwyn Jones “does gan neb fonopoli ar y syniadau gorau i fynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu’r iaith,” ac mae eisiau gweld cymdeithas sifil yng Nghymru yn trafod y ffordd orau o symud ymlaen.

Y Gynhadledd Fawr yw enw’r drafodaeth medd Carwyn Jones.

“Mae’r Gymraeg yn wynebu heriau aruthrol yn y blynyddoedd i ddod,” meddai.

“Maen nhw’n heriau mawr i ni fel Llywodraeth, ond allwn ni ddim gwneud y gwaith ar ein pennau ein hunain.

“Mae Llywodraeth Cymru yn falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni dros yr iaith drwy warchod ei statws drwy’r ddeddfwriaeth sydd wedi’i sefydlu erbyn hyn.

“Ond rydyn ni’n cydnabod – ac mae canlyniadau’r cyfrifiad diwethaf yn dangos hyn – bod yna heriau sylweddol i’w goresgyn o hyd.

‘Rhan fwyaf am weld y Gymraeg yn tyfu’

“Un o’r amcanion y mae’n rhaid inni weithio i’w gyflawni yw gwneud y Gymraeg yn iaith fyw, yn enwedig ymhlith pobol ifanc y tu hwnt i gatiau’r ysgol,” meddai Carwyn Jones.

“Drwy’r Gynhadledd Fawr dwi am sicrhau bod pawb yn cael cyfle i ddweud eu dweud.”

“Dwi o’r farn bod y rhan fwyaf o bobol Cymru am weld ein hiaith yn tyfu ac yn ennill tir yn y blynyddoedd i ddod. Dyna pam mae’n hanfodol bod pawb yn gwneud ei ran nawr.”

Cyfarfod ‘adeiladol’ gyda CyI

Cyfarfu Carwyn Jones gyda Chymdeithas yr Iaith heddiw i drafod y camau nesaf, a dywedodd fod y cyfarfod yn “adeiladol” a bod “cryn dir cyffredin” rhyngddyn nhw.

Roedd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn rhan o ddirprwyaeth y mudiad:

“Cawson ni gyfarfod adeiladol gyda Carwyn Jones y bore ma, ac yn falch ei fod wedi cydnabod bod angen gweithredu ar frys yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad.

“Mae o wedi cytuno i ymateb yn llawn i’r 26 argymhelliad yn ein maniffesto byw erbyn 6 Mehefin ac wedi cytuno i gwrdd â ni eto yn y dyfodol agos.

“Mae’n gadarnhaol iawn ei fod wedi cytuno i gynnal asesiad annibynnol a fydd yn mesur ôl-troed ieithyddol, sef effaith iaith, holl wariant y Llywodraeth ar draws pob maes.

“Mae hyn yn ddatblygiad arwyddocaol a phwysig.

“Fodd bynnag, roedden ni’n siomedig nad oedd y Prif Weinidog yn gallu cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r safonau iaith a argymhellwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, yn dilyn ei hymgynghoriad trwyadl iawn.”

Arsyllfa, ymgynghoriad…. y Gymraeg yn destun trafod

Wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg ei bod hi am sefydlu Arsyllfa er mwyn craffu ar bolisïau a allai gael effaith ar yr iaith, ac mae Plaid Cymru wedi lansio ymgynghoriad blwyddyn o hyd ar ddyfodol yr iaith Gymraeg.

Mae pryder am ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol wrth i ffigurau Cyfrifiad 2011 ddatgelu nad oes yr un gymuned bellach i’r de o Ddolgellau ble mae dros 70% o’r trigolion yn medru siarad Cymraeg.