Mae’r gwrthbleidiau wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o roi help llaw i Gyngor Llafur trwy gamu i’r adwy a rhoi £20,000 i ŵyl Gymraeg yn y brifddinas.

Roedd Cyngor Caerdydd wedi dweud na fyddan nhw’n rhoi £20,000 o nawdd i’r ŵyl eleni o achos eu toriadau gwariant, ond heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw am roi’r arian a sicrhau dyfodol yr ŵyl.

Nid yw’r penderfyniad wrth fodd Ceidwadwyr Cymru.

‘Gosod cynsail peryglus’

“Mae hi’n rhyfeddol fod Llywodraeth Cymru yn dewis a dethol pa doriadau sy’n cael eu gwneud gan eu ffrindiau Llafur yng Nghyngor Caerdydd,” meddai Janet Finch-Saunders AC.

“Mae’n gosod cynsail peryglus ac yn anfon neges i awdurdodau lleol y bydd Llywodraeth Cymru yn camu i’r adwy os bydd toriadau anghyfrifol yn cael eu gwneud.

“Nid yw’r toriadau wedi cael sêl bendith cynghorwyr Caerdydd eto hyd yn oed.

“Byddai sinig yn dweud fod Gweinidogion Llafur Cymru yn rhoi buddiannau cul y blaid o flaen y wlad drwy roi cildwrn o £20,000 i’w helpu nhw gadw at addewid etholiadol,” meddai.

Dywedodd Suzy Davies AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar y Gymraeg, ei bod hi’n falch o weld y bydd gŵyl sy’n dathlu bywyd Cymraeg y ddinas yn parhau, ond ei bod hi am wybod pa broses oedd wrth gefn achub Tafwyl ac nid digwyddiadau eraill.

Democratiaid Rhyddfrydol yn anhapus

Roedd Cyngor Caerdydd dan reolaeth y Democratiaid Rhyddfrydol tan etholiadau’r llynedd, ac mae llefarydd y blaid ar y Gymraeg, Aled Roberts AC, hefyd wedi cwestiynu penderfyniad y Llywodraeth.

“Dydy o ddim yn edrych yn dda pan fo Llywodraeth Lafur yn camu mewn i achub Cyngor Llafur rhag penderfyniad amhoblogaidd,” meddai.

“A all cynghorau sydd ddim dan reolaeth Llafur ddisgwyl cael yr un driniaeth gan Lywodraeth Lafur Cymru?

“Tra bod Cyngor Caerdydd yn gwneud toriadau llym i wasanaethau pwysig maen nhw hefyd yn recriwtio deg uwch-reolwr ar gyflogau o £120,000 yr un,” meddai.

Plaid: ‘Dim sicrwydd tymor hir’

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas wedi beirniadu’r modd yr aeth Llywodraeth Cymru ati i gynnig nawdd i ŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd.

Dywedodd Simon Thomas wrth Golwg360: “Er bod Llywodraeth Cymru wedi cau’r bwlch eleni, does dim sicrwydd tymor hir ac mae’r Gweinidog wedi camarwain drwy honni fod hwn yn arian ychwanegol. Mae hyn yn tanlinellu’r angen am gynllunio cadarn yn lle penderfyniadau ar hap.

“Mae Tafwyl yn ŵyl bwysig i ddiwylliant Cymraeg Caerdydd, ac rydym yn siomedig iawn fod Cyngor Caerdydd wedi torri ei gyllideb.

“Mae pob llywodraeth leol yng Nghymru ar hyn o bryd yn gwneud nifer o doriadau anodd, ond rhaid peidio â gweld digwyddiadau celfyddydol neu ddiwylliannol fel targedau hawdd.

“Ni ellir dosbarthu grantiau ar hap ar gyfer digwyddiadau unigol er mwyn cryfhau statws yr iaith Gymraeg ar draws Cymru – mae’n rhaid i’r llywodraeth ddatblygu polisi cynaliadwy sydd yn mynd i warchod yr iaith ar draws Cymru yn y tymor hir.”

‘Plaid yn pwyntio bys’

Mae arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd, Heather Joyce wedi croesawu cyhoeddiad Leighton Andrews.

Dywedodd: “Mae hyn yn newyddion gwych, i Gaerdydd ac i’r Gymraeg.

“Tra bod Plaid Cymru yng Nghaerdydd wedi gweiddi a phwyntio bys o’r ymylon, mae fy nghabinet wedi bod mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Lafur Cymru, gan geisio diogelu’r cyfraniad gwerthfawr y mae Tafwyl yn ei wneud i ddatblygiad y Gymraeg.”