Mae nifer o Aelodau’r Cynulliad wedi galw am gyflwyno mwy o barthau 20 milltir yr awr ar ffyrdd Cymru, i leihau damweiniau mewn ardaloedd trefol.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi arian i gynghorau lleol er mwyn cyflwyno’r parthau newydd yma, ond gan fod dim rheolaeth gan y Llywodraeth dros gyfyngiadau cyflymder, mae pryder bod y parthau ddim wedi eu sefydlu ym mhob rhan o’r wlad.

Bydd trafodaeth yn y Senedd heddiw ynglŷn â sut i wella darpariaeth y parthau yma yn agos i ysgolion ac mewn ardaloedd lle mae plant yn chwarae.

Mae AC Plaid Cymru, Jocelyn Davies yn un sydd o blaid cynyddu nifer y parthau yma.

“Hyd yn hyn mae tua 560 o barthau 20 mya wedi eu sefydlu yng Nghymru, nifer ohonynt wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru,” meddai.

“Ond mae’r  gwelliant wedi bod yn amrywiol dros Gymru. Oherwydd mai cynghorau lleol sy’n gyfrifol am sefydlu’r parthau, mewn rhai ardaloedd nid yw defnydd parthau 20 mya yn gyson.”

“Ffigurau yn profi effeithiolrwydd y polisi”

Dywedodd Jocelyn Davies bod tystiolaeth yn dangos i leihad mewn cyflymder achosi llai o farwolaethau ac anafiadau ar ein ffyrdd.  Mae’r aelod Plaid Cymru yn honni bod tystiolaeth i ddangos lleihad o 48% mewn anafiadau mewn ardal o Bort Talbot, o ganlyniad i’r parth 20 mya.

“Fel Cynulliad, rhaid gwneud pob dim yn ein gallu i leihau niferoedd yr anafiadau ymh

ellach, a sicrhau bod Cymru yn un o’r gwledydd mwyaf diogel yn y byd i gerddwyr.”