Lluoedd arfog yn Afghanistan
Fe fydd David Cameron yn cyfarfod arlywyddion Afghanistan a Phacistan y penwythnos hwn, fel rhan o’r ymdrechion i rwystro gwrthryfel gan y Taliban unwaith y bydd lluoedd Prydain yn gadael yr ardal.

Fe fydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ciniawa gyda Hamid Karzai ac Asif Ali Zardari yng nghartre’ gwledig Chequers fory, cyn cynnal trafodaeth gynta’ gyda nhw a’u prif swyddogion ddydd Llun.

Dyma’r trydydd set o drafodaethau oddi ar yr haf y llynedd.

OLION O GIG PORC WEDI’I GANFOD MEWN BWYD CARCHAR

Mae gwerthwyr a chyflenwyr cig wedi eu gwysio i gyfarfod brys, wedi nifer o achosion o gam-labelu bwyd.

Mae’r Gwasanaeth Carchardai wedi lansio ymchwiliad brys, wedi i nifer o becynnau a phastai halal sy’n cael eu gwerthu i garchardai gael eu profi, a dangos eu bod yn cynnwys olion DNA porc.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd yn dweud ei bod yn rhoi’r gorau i bryn gan un cyflenwr, ar ol darganfod fod ei fwyd yn cynnwys olion o gigoedd sydd ddim yn cydymffurfio ag arferion paratoi cig halal.