David Cameron
Mae David Cameron yn wynebu mwy o drafferthion gan feincwyr cefn ei blaid ei hun, wedi iddi ddod i’r amlwg na fydd yna fanteision treth i gyplau priod yng Nghyllideb y mis nesa’.

Mae Toriaid amlwg hefyd wedi gwrthod galwadau y dylid rhoi’r sac i’r Canghellor, George Osborne, gan fynnu y bydd o’n dal yn ei swydd pan ddaw Etholiad Cyffredinol 2015.

Fe ddaeth y datblygiadau diweddara’ hyn ymysg sion am gynllwyn yn erbyn y Prif Weinidog.

Yn ol y straeon, mae rebeliaid o fewn y Blaid Geidwadol Brydeinig wedi pennu haf 2014 fel y dedlein ar gyfer penderfynu p’un ai ydi sefyllfa’r blaid ar i fyny ai peidio. Ac os na fydd David Cameron wedi llwyddo i achub pethau erbyn hynny, fe fydd yn rhaid iddo fynd…