April Casburn (Stefan Rousseau/PA)
Mae Ditectif gwrth derfysgaeth wedi cael ei charcharu heddiw am 15 mis am geisio gwerthu gwybodaeth i’r News of the World.
Y Ditectif Brif Arolygydd April Casburn, 53 o Essex, yw’r cyntaf i gael ei chanfod yn euog fel rhan o ymchwiliad Elveden i lygredd a hacio ffonau.
Dywedodd yr Ustus Fulford y byddai wedi ei dedfrydu hi i dair blynedd o garchar pe na bai April Casburn yng nghanol mabwysiadu plentyn ar hyn o bryd.
Roedd Casburn wedi ffonio’r papur newydd, sydd bellach wedi dod i ben, i gynnig manylion am yr ymchwiliad hacio ffonau.
Dywedodd y barnwr wrthi ei bod hi wedi gwneud “ymgais lwgr i wneud arian allan o wybodaeth sensitif a niweidiol.”