Claire Squires
Mae crwner wedi dyfarnu bod rhedwraig a lewygodd wrth gymryd rhan ym Marathon Llundain y llynedd “fwy na thebyg” wedi marw ar ôl iddi gymryd cyffur i wella ei pherfformiad.
Roedd Claire Squires, 30, o Sir Gaerlŷr, wedi cael ei tharo’n wael ger Birdcage Walk, filltir o linell derfyn y ras 26.2 milltir ar Ebrill 22 y llynedd.
Dywedodd y crwner, Dr Philip Barlow nad oedd rheswm dros gredu bod Claire Squires yn defnyddio’r cyffur yn gyson, ond roedd y cyffur 1,3-dimethylamine (DMAA) yn un o gynhwysion y sylwedd roedd hi wedi ei brynu yn gyfreithlon ar y we cyn y ras.
Dywedodd y crwner: “Roedd hi wedi cymryd sylwedd oedd yn cynnwys DMAA a oedd, yn ôl pob tebygolrwydd, wedi’i gyfuno gyda phwysau corfforol eithriadol, wedi achosi i’w chalon fethu, a bod hynny wedi arwain at ei marwolaeth.”
Roedd yna olion o’r cyffur DMAA, sy’n debyg i amffetamin, yn ei system, clywodd y cwest.
Dywedodd y crwner ei fod yn gobeithio y byddai’r achos yn tynnu sylw at beryglon posib DMAA, sy’n achosi i’r galon guro’n gyflymach.
Roedd Claire Squires wedi gobeithio codi £500 ar gyfer y Samariaid drwy redeg Marathon Llundain ond fe gynyddodd yr arian i £1 miliwn yn dilyn ei marwolaeth.