Mae nifer y myfyrwyr o Gymru sydd wedi gwneud cais am le mewn prifysgol wedi disgyn, ond mae nifer y myfyrwyr sydd am ddod i brifysgolion Cymru wedi cynyddu.
Disgynnodd nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr o Gymru 2.1% o gymharu â 2012 medd corff UCAS, tra yn Lloegr a’r Alban bu cynnydd bychan ac yng Ngogledd Iwerddon bu cynnydd o 7.1%.
Ond mae prifysgolion Cymru wedi gweld cynnydd o 7.3% yn nifer y ceisiadau, o gymharu â chynnydd o 3.5% yn Lloegr. Yn ôl Prifysgol Abertawe mae 25% yn fwy o fyfyrwyr wedi gwneud cais i astudio yno o gymharu â llynedd.
Mae cynnydd wedi bod yn nifer y ceisiadau sy’n cyrraedd prifysgolion Prydain gan fyfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd a thu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Ionawr 15 oedd y prif ddyddiad cau ar gyfer ymgeisio am gwrs prifysgol yn yr hydref. Mae’r cynnydd yn nifer y ceisiadau ar draws gwledydd Prydain yn 13,080, ond mae’r cyfanswm o fyfyrwyr yn dal yn is na’r niferoedd yn 2011 cyn cyflwyno ffioedd dysgu uwch.
‘£3.6 biliwn o gymhorthdal yn methu’
Mae Ceidwadwyr Cymru wedi dweud fod polisi Llywodraeth Cymru o gyfrannu tuag at ffioedd dysgu myfyrwyr o Gymru sydd am astudio yng Nghymru neu yng ngwledydd eraill Prydain yn methu.
Yn ôl ffigurau UCAS roedd gostyngiad o hanner pwynt canran yn nifer y myfyrwyr o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru a wnaeth gais am brifysgol, a dywed Angela Burns AC fod addysg uwch yn llai hygyrch i bobol o gefndiroedd tlotach, “er y cymhorthdal o biliynau.”
“Dylai ffigurau heddiw fod yn rhybudd i weinidogion fod costau eu polisi nhw yn mynd y tu hwnt i reolaeth,” meddai Angela Burns.
“Mae nifer y myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd sy’n ymgeisio am brifysgolion Cymru wedi codi 11% mewn blwyddyn a phwy all eu beio nhw pan mae Llywodraeth Cymru yn cynnig graddau rhad diolch i arian y trethdalwyr.”