Eden Hazard
Mae arlunydd o Swindon wedi penderfynu defnyddio dull unigryw o ddarlunio chwaraewr Chelsea, Eden Hazard yn herio casglwr peli Abertawe, Charlie Morgan.

Cafodd Hazard ei anfon o’r cae yn ystod y gêm gwpan Capital One yn Stadiwm Liberty nos Fercher diwethaf, am gicio Charlie Morgan.

Mae Terry Lee wedi penderfynu darlunio’r digwyddiad ar ffurf ffigurau Subbuteo.

Roedd Morgan,  sy’n 17 oed ac yn fab i un o gyfarwyddwyr clwb Abertawe, wedi gorwedd ar ben y bêl er mwyn arafu’r gêm.

Ceisiodd Hazard ryddhau’r bêl gyda’i droed, a chafodd garden goch am y weithred.

Cynyddodd nifer dilynwyr Charlie Morgan ar Twitter i 130,000 ar ôl y digwyddiad.

Ar wefan Terry Lee, mae yna ddarluniau unigryw o rai o’r golygfeydd mwyaf eiconig yn hanes pêl-droed, gan gynnwys gôl anhygoel Zlatan Ibrahimovic i Sweden a dathliad nodweddiadol Eric Cantona ar ôl sgorio gôl.