Shaun Edwards gyda Warren Gatland
Mae hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards, yn credu fod rhaid i Gymru gychwyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gryf er mwyn cael llwyddiant yn y gystadleuaeth.
Mae Edwards yn teimlo ei bod hi wedi cymryd dwy gêm a hanner i’r tîm cenedlaethol ddechrau chwarae yn ystod gemau’r Hydref.
“Fe gymrodd hi ddwy gêm a hanner i ni ddechrau chwarae i gyflymder rygbi rhyngwladol dros yr Hydref, a hynny ym mhob agwedd o’n gêm. Roedd ein hymosod yn wych yn yr ail hanner yn erbyn y Crysau Duon, ac fe lwyddon ni i ildio dim ond 14 pwynt yn erbyn Awstralia, sef y lleiaf rydym wedi ildio yn eu herbyn o dipyn. Gallwn ni ddim fforddio cymryd dwy gêm a hanner cyn dechrau perfformio y tro hwn.”
Fe fydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch nhw gyda gêm gartref yn erbyn Iwerddon dros y penwythnos. Mae Cymru wedi chwarae mewn nifer o gemau allweddol ac agos yn erbyn Iwerddon dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae Edwards yn disgwyl gêm galed arall ddydd Sadwrn.
“Rydym ni wedi cael nifer o gemau agos iawn yn erbyn Iwerddon yn ddiweddar. Dwi’n cofio fod y gêm ddiwethaf yn Stadiwm y Mileniwm yn agos iawn yn eu herbyn nhw. Mae’r ychydig o ganlyniadau diwethaf yn eu herbyn nhw wedi ein ffafrio ni, ond ry’n ni’n gwybod ein bod ni’n wynebu tîm o safon, gyda safon eu clybiau, fel Leinster, yn brawf o hynny.”
Ni fydd Warren Gatland, prif hyfforddwr arferol Cymru, wrth y llyw ar gyfer y bencampwriaeth, gan ei fod ar ddyletswydd fel prif hyfforddwr i dîm y Llewod – gyda Rob Howley yn cymryd ei swydd am y tro. Mae Edwards wedi gweithio yn agos gyda Gatland ers blynyddoedd bellach, ac er nad yw Gatland wedi apwyntio Edwards ymysg ei hyfforddwyr ar gyfer taith y Llewod, ni fydd Edwards yn gadael i hynny effeithio ei ddyletswydd â charfan Cymru.
“Yn amlwg mae pawb eisiau mynd ar daith y Llewod, fel chwaraewr a hyfforddwr. Ond mae’r penderfyniad wedi ei wneud a dwi ddim yn mynd ar y daith.”
“Dwi ddim am anghofio faint mae ‘Gats’ wedi ei wneud i mi dros y deng mlynedd ddiwethaf. Mae fy llwyddiant fel hyfforddwr yn ganlyniad o’i help ef. Ni fydd y penderfyniad yma yn codi cwestiynau am fy ymroddiad.”
Cyfweliad: Owain Gruffudd