Sunderland 0–0 Abertawe

Ymestynnodd Abertawe eu rhediad da yn yr Uwch Gynghrair gyda gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Sunderland yn y Stadium of Light nos Fawrth. Nid yw’r Elyrch wedi colli yn y gynghrair ers canol Rhagfyr bellach.

Dylai Abertawe fod wedi cael cic o’r smotyn yn y munudau agoriadol pan gafodd Itay Shechter ei gicio yn y cwrt cosbi gan John O’Shea, ond gwrthod ei rhoi hi a wnaeth y dyfarnwr.

Mewn gêm o ychydig o gyfleodd, Chico Flores a ddaeth agosaf i Abertawe yn yr hanner cyntaf ond llwyddodd Simon Mignolet i arbed yr ergyd yr amddiffynnwr.

Roedd Sunderland fymryn yn well yn yr ail hanner ond cafodd yr ymwelwyr o dde Cymru gyfle da i’w hennill hi ddeg munud o’r diwedd serch hynny. Gwnaeth Nathan Dyer yn dda i ddwyn y meddiant i greu cyfle iddo’i hun ond roedd yr ergyd derfynol yn wael.

Mae’r pwynt yn ddigon i godi Abertawe dros West Brom i’r wythfed safle yn y tabl.

.

Sunderland

Tîm: Mignolet, O’Shea, Bramble, N’Diaye (McClean 66’), Larsson, Gardner, Colback, Vaughan, Johnson (Wickham 84’), Sessegnon, Fletcher

Cerdyn Melyn: McClean 74’

.

Abertawe

Tîm: Tremmel, Chico, Williams, Tiendalli, Davies, Britton (Graham 75’), Michu, Pablo (Lamah 66’), Dyer, De Guzman, Shechter (Ki Sung-Yeung 60’)

Cardiau Melyn: Tiendalli 20’, Britton 57’

.

Torf: 35,628