Wrecsam 2–2 Southport

Dwy gôl yr un oedd hi ar y Cae Ras nos Fawrth rhwng Wrecsam a Southport yn Uwch Gynghrair y Blue Square.

Fe drechodd y Dreigiau y tîm o ogledd Lloegr yn Nhlws yr FA brynhawn Sadwrn ond llwyddodd Southport i ddial dridiau’n ddiweddarach gan atal Wrecsam rhag codi i frig y Gyngres.

Roedd Wrecsam ar y blaen wedi dim ond saith munud diolch i gôl Danny Wright o ongl dynn ond roedd Southport yn gyfartal bum munud yn ddiweddarach diolch i gamgymeriad amddiffynnol Daniel Alfei.

Rhoddodd Joe Clarke y tîm cartref yn ôl ar y blaen ugain munud o’r diwedd ond unionodd yr ymwelwyr am yr eildro ddeg munud yn ddiweddarach pan rwydodd Andy Owens.

Roedd y chwaraewr reolwr, Andy Morrell, yn meddwl ei fod wedi ennill y gêm i’w dîm yn yr amser a ganiateir am anafiadau ond ni chafodd ei gôl ei chaniatáu gan ei fod yn camsefyll.

Byddai buddugoliaeth wedi codi Wrecsam yn ôl i frig y Gyngres ond rhaid iddynt fodloni ar aros yn ail  am y tro, bwynt y tu ôl i Grimsby.

.

Wrecsam

Tîm: Mayebi, Ashton, Alfei, Riley, Westwood, Harris, Keates, Clarke, Hunt (Cieslewicz 60’), Wright, Rushton (Morrell 84’)

Goliau: Wright 7’, Clarke 70’

.

Southport

Tîm: McMillan, Smith, Akrigg (Chalmers 46’), Grand, Owens, Lynch (Bakare 82’), Whalley, Ledsham, Benjamin, Moogan Poku (Joyce 90)

Goliau: Ledsham 13’, Owens 81’

Cardiau Melyn: Ledsham 40’, Poku 86’, Grand 90’, Bakare 90’

.

Torf: 3,002