Mae Iwerddon wedi enwi eu carfan a fydd yn wynebu Cymru ddydd Sadwrn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Gyda’r gapteniaeth yng ngofal Jamie Heaslip fe fydd Brian O’Driscoll yn safle’r canolwr.
Tîm Iwerddon
Olwyr – Rob Kearney, Craig Gilroy, Brian O’Driscoll, Gordon D’Arcy, Simon Zebo, Jonathan Sexton a Conor Murray.
Blaenwyr – Cian Healy, Rory Best, Mike Ross, Mike McCarthy, Donnacha Ryan, Peter O’Mahony, Sean O’Brien a Jamie Heaslip.
Eilyddion – Sean Cronin, David Kilcoyne, Declan Fitzpatrick, Donncha O’Callaghan, Chris Henry, Eoin Reddan, Ronan O’Gara a Keith Earls.