Mae Tesco wedi cyhoeddi bod cig mewn byrgyrs oedd yn cynnwys olion o gig ceffyl wedi dod o gyflenwyr nad oedd wedi cael eu cydnabod gan yr archfarchnad.

Roedd y cig hefyd wedi dod o du allan i’r DU ac Iwerddon, sydd yn groes i bolisi’r cwmni.

Mae cytundeb Tesco gyda’r cyflenwyr Silvercrest oedd yn darparu byrgyrs wedi eu rhewi wedi dod i ben.

Mae’r archfarchnad wedi addo cyflwyno system profi DNA ar gyfer cynnyrch cig er mwyn “sicrhau safon y bwyd” ar ei silffoedd yn sgil yr helynt.

Dywedodd y cwmni: “Mae’r dystiolaeth yn dangos bod y cyflenwyr byrgyrs wedi rhewi, Silvercrest, wedi defnyddio cig yn ein cynnyrch nad oedd yn dod o’r rhestr o gyflenwyr cydnabyddedig  yr oedden ni wedi ei roi iddyn nhw.

“Yn ogystal, nid oedd y cig yn dod o’r DU nac Iwerddon er gwaethaf ein cyfarwyddiadau mai dim ond cig eidion o’r DU ac Iwerddon ddylai gael ei ddefnyddio mewn byrgyrs wedi eu rhewi.

“O ganlyniad rydyn ni wedi penderfynu peidio â derbyn cynnyrch gan y cyflenwyr yna yn y dyfodol.”

Bu’n rhaid i Tesco wneud ymddiheuriad cyhoeddus yn gynharach y mis hwn ar ôl i brofion yn Iwerddon ddarganfod olion o gig ceffyl mewn rhai byrgyrs cig eidion wedi eu rhewi.

Cafodd 10 miliwn o byrgyrs eu tynnu oddi ar silffoedd archfarchnadoedd o ganlyniad i’r helynt.