Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref gyflwyno newidiadau radical i’r broses o recriwtio plismyn heddiw.

Ar hyn o bryd mae plismyn yn dechrau fel cwnstabliaid ond o dan y cynlluniau a fydd yn cael eu cyhoeddi gan Theresa May yn ddiweddarach fe fydd yn caniatáu i recriwtiaid ddechrau ar lefel arolygwyr.

Mae’n debyg bod yr Ysgrifennydd Cartref hefyd yn bwriadu newid y gyfraith fel bod penaethiaid yr heddlu o wledydd tramor yn cael cynnal heddluoedd ym Mhrydain am y tro cyntaf.