Huw Jones
Mae S4C wedi dod i gytundeb gyda’r BBC, sy’n sicrhau partneriaeth rhwng y ddau ddarlledwr hyd at 2017.
Golyga’r cytundeb y bydd S4C yn cael ei hariannu’n bennaf gan y BBC am hyd y cytundeb, ond fe fydd S4C yn cadw ei hannibyniaeth olygyddol.
Cafodd y cytundeb ei gadarnhau yn dilyn cyfarfod rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C.
Bydd y BBC yn ariannu S4C yn rhannol o fis Ebrill ymlaen, ac fe fydd y drefn yn parhau tan ddiwedd y cytundeb yn 2017.
Bydd y BBC yn cyfrannu £76.3 miliwn i S4C yn y flwyddyn gyntaf, £76 miliwn yn 2014/15, £75.25 miliwn yn 2015/16 a £74.5 miliwn yn 2016/17.
Bydd nawdd hefyd yn dod o Lywodraeth y DU, yn ogystal ag arian trwy fasnachu.
Daw’r cytundeb ar ddiwedd cyfnod o ymgynghori ar ddyfodol y bartneriaeth.
‘Rhannu arbenigedd’
Mae’r cytundeb yn golygu y bydd S4C a’r BBC yn “rhannu arbenigedd, yn olygyddol ac yn weithredol”.
Mae’r darlledwyr wedi addo “darparu gwasanaeth cyhoeddus yn cynnwys amrediad eang o raglenni amrywiol o ansawdd uchel ar gyfer lledaenu gwybodaeth, addysgu ac adloniant”.
Ond does dim gorfodaeth ar S4C i gomisiynu’r BBC i greu rhaglenni.
Yn ôl y cytundeb, bydd y rhaglenni’n rhai “gwreiddiol, heriol, arloesol a diddorol, ac fe ddylent feithrin doniau Cymreig”.
‘Datblygiad hanesyddol’
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones: “Mae hwn yn ddatblygiad hanesyddol ar gyfer darlledu Cymraeg sy’n darparu eglurder ar gyfer y berthynas newydd rhwng S4C a’r BBC, tra ar yr un pryd yn diogelu annibyniaeth S4C.
“Rydym yn ddiolchgar i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad cyhoeddus. Bu eu cyfraniadau yn werthfawr tu hwnt ac maent wedi cyfrannu’n arwyddocaol at eiriad terfynol y Cytundeb unigryw hwn.”
‘Diogelu annibyniaeth S4C’
Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC dros Gymru: “Fy mhrif flaenoriaeth yw cynorthwyo S4C i ddarparu’r rhaglenni gorau posib i gynulleidfaoedd Cymraeg, tra’n diogelu annibyniaeth S4C a sicrhau bod arian o ffi’r drwydded yn cael ei wario’n ddoeth.
“Bydd y bartneriaeth helaethach hon yn adeiladu ar ymrwymiad y BBC i’r Gymraeg sydd wedi bodoli ers dyddiau cynharaf y Gorfforaeth, ac yn adeiladu ar lwyddiannau S4C dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf ac yn symud darlledu yn y Gymraeg yn ei flaen tuag at ddyfodol creadigol hyderus.”
‘Pryderon’
Dywed TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) eu bod yn croesawu’r newidiadau a wnaed i’r Cytundeb Gweithredu rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C. Serch hynny maen nhw’n siomedig fod rhai pwyntiau sylfaenol dal heb eu datrys.
Roedd TAC wedi codi rhai pryderon yn ystod yr ymgynghoriad y llynedd, mewn nifer o feysydd.
Dywedodd Iestyn Garlick, Cadeirydd TAC: “Mae’r sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru yn croesawu’r newidiadau a wnaed yn y Cytundeb Terfynol, serch hynny mae’n anffodus fod nifer o bryderon sylweddol yn aros, yn benodol y ffaith fod disgwyl i S4C wneud rhagor o arbedion o gyfnod cychwyn y cytundeb yma, sydd ddim yn cymryd i ystyriaeth toriadau blaenorol a wnaed yn yr Adolygiad Gwariant a Datganiad yr Hydref.
“Rydym hefyd yn bryderus y bydd gan Ymddiriedolaeth y BBC yr hawl i atal ariannu S4C ‘in extremis’ – rydym dal o’r farn y dylai’r hawl yma aros gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.”