Y Bandana yw un o'r grwpiau fydd yn cymryd rhan yn yr wyl
Gwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn fydd y lleoliad ar gyfer gŵyl gerddoriaeth newydd i bobol ifanc rhwng 15 a 18 oed.
Bydd Gŵyl Glan-llyn, sy’n cael ei gynnal mewn cysylltiad rhwng gwersyll yr Urdd ac C2, yn cyfuno gweithgareddau’r gwersyll fel canŵio, dringo a mynydda, gyda cherddoriaeth gan rai o brif fandiau Cymru. Bydd Y Bandana, Candelas, Y Niwl a Sŵnami i gyd yn perfformio dros y penwythnos, ac mae’r trefnwyr yn gobeithio rhoi llwyfan i nifer o fandiau ysgol hefyd.
Bydd yr ŵyl yn digwydd ar benwythnos 12-14 Ebrill, a bydd yn cynnwys gigs a gweithdai cerddorol, ynghyd a holl weithgareddau Glan-llyn, yn ôl swyddog iaith y gwersyll, Llinos Jones Williams.
“Fe fydd y penwythnos yn gyfle gwych i bobl ifanc ar hyd a lled Cymru ddod i adnabod ei gilydd, mwynhau cerddoriaeth Cymru ar ei orau, creu rhwydweithiau ac i fwynhau gweithgareddau awyr agored sydd yn cynnig her a sialens,” meddai.
Gweithdai trefnu gigs
Drwy gynnal gweithdai trefnu gigs, mae gobaith y bydd yr ŵyl yn arwain at sefydlu nifer o gigs Cymraeg hefyd.
“Bydd cyfle i’r criw hefyd ddewis cymryd rhan mewn gweithdai trefnu gigs yn y gobaith wedyn y bydd yr ŵyl yn gadael ei gwaddol a bod digwyddiadau yn cael eu trefnu ledled Cymru yn sgil y cysylltiadau a wneir,” meddai Llinos Jones Williams.
Dywedodd Osian o fand Candelas ei fod yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r digwyddiad.
“Mae Glan-llyn wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad sawl band a cherddor yn y sin roc yng Nghymru, ond mae’r syniad pellach o greu gŵyl yng Nglan-llyn yn ffantastig! Mae Candelas yn enwedig, gan ein bod yn fand lleol, wrth ein boddau i fod ymysg un o’r bandiau cyntaf i chwarae yn yr ŵyl newydd hon – yr ŵyl gyntaf o nifer gobeithio.”
Bydd Gŵyl Glan-llyn yn digwydd dros 12-14 Ebrill, a’r gost fydd £99.