Mae Gorsedd y Beirdd wedi cael ei chyhuddo o wahaniaethu ar ôl hysbysebu am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn rhai o seremonïau’r Eisteddfod Genedlaethol.

Mae hysbysebion sy’n gofyn am bobol sy’n medru “cerdded yn urddasol i fiwsig araf y delyn” ac mae mudiad Anabledd Cymru yn anhapus gyda geiriad yr hysbyseb, am ei fod yn gwahaniaethu yn erbyn pobol mewn cadair olwyn.

“Maen nhw’n gwahaniaethu yn anfwriadol gyda geiriad y swyddi yma,” meddai Tina Evans o Anabledd Cymru.

“Rwy’n derbyn fod traddodiad i’r holl beth ond os cadwn ni at draddodiad yna byddai hawliau pobol anabl ddim yn gwella o gwbl.

“Mae’n bwysig fod digwyddiadau mawr yn adlewyrchu cymdeithas ac mae gweld person mewn cadair olwyn yn cyflawni rôl yn gallu newid agweddau pobol,” meddai Tina Evans.

Gorsedd yn ‘syrthio ar ei bai’

Mae Cofiadur yr Orsedd, Penri Roberts, wedi dweud fod yr Orsedd yn “syrthio ar ei bai” a bod geiriad y disgrifiadau swydd yn cael eu newid.

“Mae’n hawdd i ni newid y geiriad i ddweud ‘symud yn gyflym’ yn hytrach na ‘cherdded yn gyflym.’

“Rydym ni’n pwysleisio fod y swyddi’n agored i bawb a ddim yn gaeedig nac yn ddibynnol ar sut mae rhywun yn edrych.

“Ond mae na amodau y mae angen i ymgeiswyr gwrdd â nhw, megis eu cyfraniad nhw i’r Gymraeg o fewn eu hardal.”

Awgrymodd Penri Roberts ei bod hi’n bosib i’r cyhuddiad o wahaniaethu fynd yn rhy bell.

“Fe allech chi ddweud ein bod ni’n gwahaniaethu yn erbyn pobol sydd methu canu ar gyfer y swydd o ganu’r weddi, neu yn erbyn y rheiny sydd methu barddoni ar gyfer y swydd o gyfarch y bardd buddugol.

“Ond ar fater y disgrifiadau yma, sydd wedi bod hefo ni ers blynyddoedd maith, rydym ni’n syrthio ar ein bai.”

Yn yr haf eleni bydd tro ar fyd yn yr Orsedd a bydd merch yn Archdderwydd am y tro cyntaf erioed. Christine James hefyd fydd y person cyntaf na chafodd ei fagu trwy gyfrwng y Gymraeg i gyflawni’r swydd.