Karen Williams
Mae ymgyrchwyr yn apelio am gymorth er cof am ddynes a fu farw o ganser y llynedd, ac i godi arian tuag at elusen Ymchwil Canser.
Llwyddodd Karen Williams, o Lannerch y Medd, Ynys Môn a’i chefnogwyr, ‘Karen’s Chicks’, i godi £20,000 tuag at Ymchwil Canser tra roedd Karen yn brwydro gyda chanser y fron. Nawr, wedi ei marwolaeth ym mis Medi’r llynedd, mae’r ‘Chicks’ eisiau parhau a’r gwaith o gasglu arian, er cof am Karen.
Ymgyrchodd Karen a’i thîm drwy gymryd rhan yn ras ‘Relay for Life, Bangor’, digwyddiad cymunedol i ddathlu bywydau rheiny sydd wedi eu heffeithio gan ganser, a chodi arian i elusen Ymchwil Canser.
Cynhelir digwyddiad Bangor ar 22 Mehefin ar gae Treborth.
Dywedodd cadeirydd y Relay for Life ym Mangor, Katherine Owen: “Roedd yr elfen o godi arian yn holl bwysig i Karen yn ystod ei brwydr, ac mae hynny’n berffaith glir o’r symiau anhygoel o arian a godwyd gan y tîm, Karen’s Chicks.
“Braf iawn yw cyhoeddi bod y tîm eisoes wedi cofrestru ar gyfer eleni. Mae pawb yn deall pa mor anodd fydd hynny ac yn wir fydd y digwyddiad byth ru’n fath heb wyneb hapus Karen i’n hysbrydoli ni.”
Cafodd wythnosau olaf brwydr Karen gyda chanser eu ffilmio, ac mae’n dangos sut yr oedd hi’n benderfynol o fwynhau ei bywyd. Ei gobaith oedd i’r rhaglen, a fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C heno, ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.
Yn y rhaglen, dywedodd Karen iddi obeithio ysbrydoli dioddefwyr eraill, a rhoi gobaith i’w teuluoedd.
“Nesh i feddwl, dwi un ai yn mynd i ista yn fama, yn di-galoni, neu dwi’n mynd i joio,” meddai Karen yn y rhaglen.
“Dwi’m isio mynd, does ‘na ddim give up yndda fi – dwi’m yn barod i fynd, dwi ddim, ond bywyd ydy o ‘de.”
Bydd O’r Galon: Karen, yn cael ei darlledu heno (nos Fawrth) am 9yh ar S4C