Nevin Spence
Clywodd cwest fod merch wedi dringo i danc biswail ddwywaith er mwyn ceisio’n ofer i achub bywyd ei thad a’i dau frawd yng ngogledd Iwerddon.

Roedd un o frodyr Emma Rice, Nevin Spence, 22, yn chwaraewr rygbi proffesiynol gyda rhanbarth Ulster, a bu farw ei brawd arall Graham Spence, 30, a’i thad Noel, 58, o ganlyniad i anadlu mwg gwenwynig y tanc ar fferm y teulu yn Hillsborough, Swydd Down ar Fedi 15.

Clywodd y cwest yn Belfast fod Graham Spence wedi dringo i’r tanc biswail ar ôl i gi defaid gwympo i mewn. Llewygodd y ffermwr o achos y mwg ac aeth Nevin a Noel i’w helpu, cyn iddyn nhw hefyd gael eu taro gan effaith y mwg.

‘Dewr tu hwnt’

Dringodd Emma Rice lawr ysgol i mewn i’r tanc er mwyn ceisio achub eu bywydau, yn groes i gyngor cymdogion a ddywedodd ei fod yn rhy beryglus.

“Pan mae’n dod i gariad at eich teulu, does dim ots,” meddai Emma Rice wrth Brif Grwner Gogledd Iwerddon, John Leckey.

Ar ôl tynnu ei thad o’r tanc aeth Emma Rice yn ôl i achub ei brawd Graham ond wrth iddi gyrraedd pen y tanc llewygodd.

Dywedodd y Crwner iddi fod yn “ddewr tu hwnt.”

Bu farw Nevin a Noel Spence yn y fan a’r lle, a bu farw Graham Spence yn yr ysbyty yn fuan wedyn.

Cafodd Emma Rice ei chludo i Ysbyty Brenhinol Victoria yn Belfast a gwellodd ddigon i fedru rhoi teyrnged deimladwy i’r dynion yn eu hangladd.