Fe all cyffur sy’n gallu achosi canser mewn pobol fod wedi cael ei gynnwys yn y gadwyn fwyd trwy gig ceffyl sy’n cael ei drin mewn lladd-dai yn y DU, yn ôl y Blaid Lafur.
Dywedodd llefarydd amgylchedd y Blaid Lafur, Mary Creagh, wrth y Senedd heddiw bod ganddi dystiolaeth bod “sawl” ceffyl a oedd wedi eu lladd mewn lladd-dai yn y DU y llynedd wedi cael prawf positif am y cyffur Phenylbutazone.
Daw ei honiadau ddyddiau’n unig ar ôl iddi gael ei ddatgelu bod byrgyrs yn cael eu gwerthu mewn rhai archfarchnadoedd yn cynnwys olion o gig ceffyl.
“Mae gen i dystiolaeth sy’n dangos bod sawl ceffyl a laddwyd yn lladd-dai’r DU y llynedd wedi cael profion positif am Phenylbutazone, neu bute. Mae’n gyffur sy’n achosi canser mewn pobol ac wedi ei wahardd o’r gadwyn fwyd dynol,” meddai Mary Creagh.
“Mae’n bosib bod yr anifeiliaid yma wedi mynd i mewn i’r gadwyn fwyd,” meddai.
Dywedodd y gweinidog amaeth, David Heath, bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) yn sicrhau bod yr holl gig sy’n cael ei gynhyrchu yn y DU yn addas i bobol fwyta.
“Lle mae canlyniad positif o Phenylbutazone yn cael ei ddarganfod, mae’r FSA yn ymchwilio a gweithredu i ddarganfod o ble mae’r cig yn dod ac i ble mae wedi mynd,” meddai.
Dywedodd Mary Creagh ei bod yn synnu nad oedd y gweinidog wedi codi’r mater o’r blaen os oedd yn ymwybodol o bresenoldeb y cyffur mewn cig, a bod gan y cyhoedd yr hawl i wybod.
Mae Phenylbutazone yn gyffur sy’n cael ei ddefnyddio i drin poen a chlefyd byrdymor mewn anifeiliaid.