Y safle nwy (Llun PA)
Fe fydd awdurdodau gwledydd Prydain yn gwneud popeth allan nhw i ddal y terfysgwyr a tipiodd a lladd gweithwyr mewn gwaith nwy yn anialwch y Sahara.

Mewn datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin, fe ddywedodd David Cameron nad oedd unrhyw gyfiawnhad tros y weithred sy’n cael ei beio ar grŵp cysylltiedig ag Al Qaida.

Mae o leia’ un person o wledydd Prydain wedi ei ladd yn y digwyddiad.

Ond fe ddywedodd David Cameron hefyd fod llai o ddinasyddion Prydeinig mewn peryg na’r amcangyfrifon gwreiddiol.

Roedd y ffigwr bellach yn nes at 10 na’r 20 neu 30 oedd wedi eu crybwyll yn gynharach.

‘Siomedig’

Roedd David Cameron wedi siarad gyda Phrif Weinidog Algeria heddiw ar ôl i luoedd y wlad geisio rhyddhau’r gwystlon.

Mae yna feirniadaeth wedi bod ar y wlad Affricanaidd am fentro gwneud hynny heb gymorth lluoedd arbennig o’r Gorllewin ac fe ddywedodd David Cameron ei fod yn “siomedig” na chafodd wybod ymlaen llaw.

“Does dim cyfiawnhad o gwbl am y cipio gwystlon yma a byddwn yn parhau i wneud popeth allwn ni i ddal y bobol sy’n gyfrifol am hyn a gweithredoedd terfysgol ffiaidd tebyg,” meddai.