Coffau trychineb y Gleision (llun Carl Ryan)
Fe fydd rheolwr pwll glo’r Gleision a’r perchnogion yn wynebu achos troseddol tros farwolaeth pedwar o lowyr yno ym mis Medi 2011.

Fe gyhoeddodd Heddlu De Cymru y mydd y rheolwr, Malcolm Fyfield, 57 oed, yn wynebu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol ac yn ymddangos o falen Llys Ynadon Castell Nedd ddechrau Chwefror.

Mae perchnogion y pwll yng Nghwm Tawe, MNS Minint Ltd, hefyd wedi eu cyhuddo o bedwar achos o ddynladdiad corfforaethol.

Cafodd y teuluoedd a arweinwyr y gymuned leol wybod am y datblygiadau ynghynt heddiw.

Lladd pedwar

Fe gafodd pedwar o ddynion eu lladd er gwaetha’ ymdrech anferth i geisio’u hachub ar ôl i ddŵr lifo i mewn i’r pwll bychan preifat.

Fe fu galaru mawr ar ôl Philip Hill, 44; Charles Breslin, 62; David Powell, 50; a Garry Jenkins, 39 oed a holi mawr am ddiogelwch y nifer sylweddol o byllau bychain sydd yn yr ardal.

Fe wnaed y penderfyniad i erlyn gan Wasanaeth Erlyn y Goron ar ôl ymchwiliad hir gan Heddlu De Cymru.