Mae tanau gwyllt sy’n parhau i losgi yn ne Awstralia wedi lladd dyn yn nhalaith Victoria.
Daeth heddlu o hyd i gorff mewn car oedd wedi ei losgi ger tref Seaton, 120 milltir i’r dwyrain o Melbourne.
Dyma’r farwolaeeth gynta’ yn y tanau gwyllt, sydd hefyd wedi dinistrio nifer fawr o dai.
Bu farw dyn tân, 61, yn Nhasmania ddydd Sul, ond does dim penderfyniad swyddogol wedi ei wneud am beth oedd achos ei farwolaeth eto.
Mae’r gwasanaethau tân yn parhau i weithio mewn gwres chwilboeth i geisio atal y tanau rhag lledu ymhellach.
Mae’r gwres yn nhalaith New South Wales wedi bod yn rheolaidd tua 40C yn rheolaidd tra bod y tymheredd yn Sydney wedi cyrraedd 45.8C am gyfnod byr – y tymheredd uchaf erioed yno.
‘Peryglus iawn’
Mae dros 100 o danau yn llosgi dros New South Wales yn unig ar hyn o bryd, ond yn ôl rhagolygon lleol, gall dywydd oerach a glaw gyrraedd de-ddwyrain y wlad dros y penwythnos.
Er hyn, mae disgwyl i nifer o’r tannau barhau i losgi am wythnosau pellach.
“Mae’n sefyllfa beryglus iawn yma heddiw,” meddai rheolwr gwasanaeth tân Victoria, Bill Johnstone. “Dyma rai o’r amodau gwaethaf y gallwn ni eu cael. Gallwn ni fod yma am ddyddiau, neu hyd yn oed wythnosau.”