Mae nifer o angladdau yn amlosgfeydd y Cymoedd a Chaerdydd wedi eu gohirio oherwydd yr eira.

Dywedodd Gwasanaethau Profedigaeth Rhondda Cynon Taf fod nifer o wasanaethau wedi cael eu gohirio gan drefnwyr angladdau.

Dywedodd llefarydd: “Yn anffodus, dydy’r trefnwyr angladdau ddim yn gallu cynnal y gwasanaethau ac felly, gyda chaniatâd teuluoedd, bu’n rhaid i wasanaethau angladdol gael eu gohirio am y tro.”

Yng Nghaerdydd, mae Amlosgfa  Thornhill ar agor ond mae nifer o wasanaethau wedi cael eu gohirio gan drefnwyr angladdau yno hefyd.

Mae nifer o amlosgfeydd yn y Gorllewin, gan gynnwys Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn parhau â’r gwasanaethau fel arfer.