Mae Llywodraeth Cymru’n hawlio y bydd grant newydd ar gyfer gwasanaethau bws yng Nghymru’n helpu i daclo tlodi ac yn helpu pobol i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cymunedau.
Fe gyhoeddodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Carl Sargeant, y bydd tri grant blaenorol yn cael eu rhoi at ei gilydd i greu un grant newydd gwerth £25 miliwn.
Fe fydd y pwyslais, meddai, ar ddenu rhagor o deithwyr yn hytrach na thalu i’r cwmnïau bysiau am gynnal gwasanaethau, pa un a oes pobol arnyn nhw ai peidio.
‘Angen cydweithio’
“Mae’n hanfodol,” meddai Carl Sargeant, “fod cwmnïau’n gweithio gyda ni i gynyddu nifer a chanran y teithwyr sy’n talu am eu siwrneiau er mwyn i’r rhwydwaith bysiau fod yn sicr ac yn gynaliadwy, ac os ydyn nhw am i’w busnesau ffynnu.”
Fe fydd y Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cael ei weinyddu gan y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol ac yn dod i rym ym mis Ebrill eleni.
Fe fydd cynnydd o £1.3 miliwn i £2.5 miliwn yn y cymorth i gynlluniau cymunedol ond fydd y rheiny ddim ar gael ym mhob ardal.
Y blaenoriaethau
Dyma’r blaenoriaethau, yn ôl Carl Sargeant:
- Cynnig tocynnau fforddiadwy i bob grŵp
- Gwella’r broses o gynllunio amserlenni
- Cyflwyno cynlluniau tocynnau sy’n cynnwys nifer o gwmnïau – er mwyn symleiddio ac arbed arian i deithwyr.