Mae pedwar o blismyn wedi cael eu hanafu neithiwr, wedi noson arall o brotestio ac ymladd yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd yn rhaid cludo un o’r heddweision i’r ysbyty, wedi i’r gwrthdystiadau tros benderfyniad i beidio â chwifio baner Jac yr Undeb ar Neuadd y Ddinas, droi’n gas.

Roedd y cwffio waetha’ yn ardaloedd Carrickfergus, a Rathcoole yn Newtownabbey – y ddwy ardal ar gyrion dinas Belffast.