Mae rhybuddion tywydd mewn grym y penwythnos hwn, gyda meteorolegwyr yn dweud fod rhew ac eira ar y ffordd.
Mae disgwyl i hyd at 8cm o eira syrthio mewn rhannau dwyreiniol ac ar dir uchel fory, gyda chawodydd ysgafn o eira eisoes wedi cwympo ar dir uchel yn yr Alban fore heddiw.
Fe fydd y tymheredd yn plymio cyn ised a 6 gradd o dan y rhewbwynt, gyda rhannau o ogledd Cymru, gogledd-ddwyrain Lloegr a’r Alban ymysg yr ardaloedd oera’.