Fe fydd Ed Miliband, arweinydd y blaid Lafur Brydeinig, yn addo gwneud y farchnad dai yn decach ar gyfer rhentwyr preifat.
Heddiw, fe fydd yn cyflwyno ei athroniaeth ‘Un Genedl’, gan roi ychydig o gig ar yr esgyrn y cyflwynodd yn ei araith gofiadwy yng nghynhadledd fis Hydref diwetha’.
Mae disgwyl i Miliband rybuddio fod angen gweithredu’n gyflwym er mwyn rhwystro’r ffiniau cymdeithasol sy’n gwahanu’r rheiny sy’n berchen eu tai eu hunain, a’r rheiny sy’n rhentu lle i fyw.
Fe fydd yn traddodi ei araith gerbron y Fabian Society heddiw.